Menu

  • Skip to content

Croeso i Wales Rithwir Powys

Beth yw’r Waled Rithwir?

Mae’r Waled Rithwir yn golygu mai bod rheolaeth lwyr ar y Taliad Uniongyrchol yn eich dwylo chi. Mae’n cynnig dewis eang i chi o sut i wario’ch arian, yn caniatáu i chi trefnu apwyntiadau a rheoli’r cymorth a gewch. Mae hefyd yn talu eich darparwyr yn awtomatig.

Manteision y Waled Rithwir

Hawdd ei defnyddio

Trwy ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur personol (a chefnogaeth ar ben arall y ffôn)

Mynediad 24 awr

Mynediad unrhyw bryd, a gweld y diweddariadau mewn amser go iawn

Symlach

Mae’n diddymu’r angen i fod â chyfrif banc traddodiadol i dderbyn eich taliad uniongyrchol

Diogel a sicr

Mae’n eich gwarchod rhag twyll a gwastraff

Chi sy’n ei rheoli

Mae’n sicrhau mai chi sydd wrth wraidd eich gofal a’ch cefnogaeth

Mae’n cyflawni gofynion y Cyngor 

Mae’n golygu nad oes angen i chi gadw neu gyflwyno unrhyw dderbynebau neu gofnodion llaw

Sut ydw i’n gwneud cais?

Mae digon o help ar gael. Mae’r cam nesaf yn dibynnu ar eich safle yn y siwrnai. Cliciwch ar y blwch sy’n disgrifio orau beth yw eich sefyllfa (neu sefyllfa’r unigolyn rydych yn ei helpu).

Rwy’n newydd i ofal cymdeithasol oedolion

Dylech gysylltu â thîm Cymorth/Cymorth/Assist yng Nghyngor Sir Powys a byddant yn gallu eich helpu chi i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi a pha opsiynau sydd gennych, a gallai hyn yn y pen draw gynnwys Taliad Uniongyrchol a Waled Rithwir.

Rwyf wrthi’n trefnu taliad uniongyrchol a hoffwn i gael rhagor o wybodaeth am y Virtual Wallet

Dylech siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol, eich cyswllt yn PeoplePlus neu dîm Cefnogi’r Virtual Wallet.

Rwyf wrthi’n trefnu’r Waled Rithwir, ond mae angen rhywfaint o help gyda hi

Dylech gysylltu â thîm cefnogi’r Virtual Wallet – mae eu manylion cysylltu isod.

Rwyf eisoes yn derbyn taliad uniongyrchol, ac mae gen i ddiddordeb mewn symud hwn i’r Virtual Wallet

Dylech gysylltu â thîm cefnogi’r Virtual Wallet – mae eu manylion cysylltu isod.

Rwy’n cynorthwyo plentyn ac mae gen i ddiddordeb mewn taliadau uniongyrchol a’r Virtual Wallet

Dylech gysylltu â Thîm Drws Agored y Gwasanaethau Plant, manylion cysylltu isod.

Cysylltu â ni

Cymorth/Assist, Cyngor Sir Powys

E-bost: assist@powys.gov.uk 

Ffôn: 0345 602 7050 

PeoplePlus

E-bost: ilspowys@peopleplus.co.uk 

Ffôn: 0330 123 2815 

Tîm Cefnogaeth - Virtual Wallet 

E-bost: info@virtualwallet.co.uk 

Ffôn: 03300 582 692 

Tîm Plant, Cyngor Sir Powys 

E-bost: people.direct@powys.gov.uk 

Ffôn: 01597 827666